![]() |
|||||||||
| Cartref/Home | |||||||||
|
(English version follows the Welsh...) 19 Mawrth 2009. Croeso i wefan y nofelydd Llwyd Owen. Beth dw i’n ei wneud ar hyn o bryd: O ran gwaith, dw i wrthi’n ysgrifennu nofel # 4 ar hyn o bryd ac yn agosáu at yr uchafbwynt. Mae’r nofel mewn pedair rhan, ac mae’r dair rhan gyntaf ‘yn y bag’, fel petai. Stori am ddau dditectif yw hi yn gweithio yn nhref ddychmygol Gerddi Hwyan, “sydd ddim yn anhebyg i Ben-y-Bont ar Ogwr o ran maint a lleoliad, ond heb os yn lle llai depressing”. I unrhyw un sydd â diddordeb, dyma flâs o’r olygfa agoriadol: Gyrrodd y Blaidd gar crand ei frawd yn araf bach trwy’r Coed. Chrysler 300C du oedd y cerbyd, gyda ffenestri tywyll a rhif cofrestredig ffug ar gyfer cyflawni’r weithred benodol yma a gwarchod hunaniaeth perchennog y car. Enw rhyfedd, pendronodd, am ardal heb ddeilen yn agos ati. Cyfeiriad at hanes y lle oedd yr enw, wrth gwrs, a hen hanes gyda hynny; cyn i’r coed gael eu llorio a’u clirio i wneud lle i ‘ddatblygiad’ dinesig o nendyrrau briciau coch - sydd bellach yn llwydaidd eu lliw diolch i’r ymosodiadau parhaus yr elfennau - i roi lloches i wehilion cymdeithas Gerddi Hwyan. Un ffordd mewn ac un ffordd allan sydd ’na i’r ystad, gyda’r hewl yn creu cylch o gwmpas clwstwr o fflatiau simsan yn y canol. Wrth i’r cerbyd hwylio o gwmpas am y tro cyntaf, gwyliodd y Blaidd y puteiniaid yn camu o’r cysgodion wrth iddynt sylwi fod y car wedi dychwelyd am y tro cyntaf mewn tair wythnos. Roedd gweld y car yn golygu un peth i’r merched oedd yn rhynnu ar y palmentydd yn eu sgertiau byr a’u boob-tubes bychan – roedd un ohonynt yn mynd i gael noson gyfan mewn gwely clyd yng nghwmni bós y Blaidd, a chael ei gwobrwyo’n hael am wneud hynny. Roedd noson yng nghmwni ei frawd yn dasg hawdd o’i chymharu â rhai o’r pethau roedd disgwyl iddynt ei wneud i ennill eu harian. Nid oedd y Blaidd yn gwybod beth yn gwmws oedd rhaid i’r ‘ferch lwcus’ ei wneud unwaith iddi gyrraedd ystafell ei frawd, ond gallai ddychmygu… er, wedi iddo feddwl, gallai ddim fod yn rhy ddrwg chwaith gan fod puteiniaid y Coed yn ddigon brwdfrydig i ymuno gyda fe ar bererindod dirgel. Diflasodd y Blaidd wrth yrru o gwmpas am yr eildro ac fe arweiniodd yr iselder, fel arfer, at deimladau o gasineb tuag at ei frawd a’r rheolaeth oedd gan hwnnw drosto. Roedd y puteiniaid ar ochr y ffordd yn ei atgoffa o gownter cig dynol, gyda golwythion o bob math – o’r darnau gorau, y ffiledu a’r syrlwyn, i’r cigach mwyaf gwelw ac anymunol - ar ddangos. Diflasodd y gymhareb hon y Blaidd fwy fyth, ond gwelodd fflach o goch yng nghanol y tywyllwch. Dyna hi. Dyna’r ‘un’. Am heno ta beth… Wedi bron blwyddyn o osgoi cyfrannu at y cyfryngau mewn unrhyw ffordd (er mwyn canolbwyntio ar y pethau pwysig – sef fy nheulu ac ysgrifennu), bydda i’n westai ar raglen Geraint Jarman ar Radio Cymru ar 8 Ebrill. Beth dw i’n ei ddarllen ar hyn o bryd: Yr Anweledig gan Llion Iwan. Nofel gyfoes ac amserol iawn yn edrych ar effeithiau’r brwydro yn y Dwyrain Canol ar ddau gymeriad hollol wahanol – dyn ifanc o ororau anghysbell Pacistan ac Affganistan sydd wedi’i radicaleiddio ar ôl symud i Dubai yn edrych am waith; a chyn-beilot yn awyrlu’r Amerig sydd wedi gweld gormod o’r gwrthdaro i brahau i fyw bywyd cyffredin. Sa i hyd yn oed hanner ffordd drwy’r llyfr eto, ond hyd yn hyn, hi yw un o’r nofelau mwyaf pwerus i fi erioed ddarllen yn y Gymraeg. Beth sydd ar fy nhroellfwrdd: Es i Amsterdam rai wythnosau yn ôl er mwyn mwynhau’r golygfeydd a’r diwylliant… hmmm. Fe gefais gyfle i fynd i siopa am recordiau hefyd gan ddarganfod Pi-Man, artist o’r Iseldiroedd sy’n cyfuno reggae, calypso, jazz a ffync. Sdim lot o wybodaeth ar-lein amdano, ond gallwch glywed ychydig o’i gerddoriath yma. Rai blynydde’n ôl bellach, fe gyflwynodd fy ffrind Piltch fi i gerddoriaeth y gitarydd Chet Atkins. Nid yw’r record Hometown Guitar wedi bod yn bell o’r stereo ers i fi ei phrynu yn Cob fis Rhagfyr. Cyrhaeddodd copi feinyl o Home Invasion, clasur Ice-T o 1993, drwy’r post yr wythnos ddiwethaf ac mae hi'n dal yn swnio mor ffres ag oedd hi pan o’n i’n gwrando arni ar dâp dros bymtheg mlynedd yn ôl. Mae’r ymffrostio a’r bygthiadau yn dal i ddod â gwên i fy ngwyneb a 99 Problems yn gwneud i fi chwerthin bob tro rwy’n gwrando arni. Ar yr eiliad hon rwy’n gwrando ar When The Air Is Bright They Shine gan Mountaineer, neu Henning Wandoff i ddefnyddio’i enw iawn, artist o’r Almaen sy’n creu cerddoriaeth hollol chilled, ddim yn anhebyg i Jose Gonzalez, ond yn llawer gwell. Mae ei record gyntaf, Sleep And Me, yn well fyth hyd yn oed. 19 March 2008. Welcome to award-winning novelist, over-enthusiastic photographer and rusty-DJ, Llwyd Owen’s website. A new year, a new fear – which this year consists of the regretful news that the English translation of my award winning tome will not be published in May 2009 or anytime soon. In the meantime, you should check out Lloyd Jones’ new collection of short stories and essays, My First Colouring Book, and Lloyd Robson’s latest book, Oh Dad!, a sort of mutant travelogue/biography concerning the notoriously hard-living actor, Robert Mitchum. Over and out. This website’s content belongs to Llwyd Owen in accordance with the Copyright, Designs and Patents Act 1988. It is illegal to reproduce any part of it, be it a photographic image or written word, without the author’s prior consent.
|