Cartref/Home








© Llwyd Owen 2005
 

(English version follows the Welsh...)

19 Gorffennaf 2008.

Croeso i wefan y nofelydd arobryn, ffotograffydd brwdfrydig a’r DJ rub-a-dub-dublyd, Llwyd Owen.

Wel, mae’r adeg yna o’r flwyddyn mae pawb (wel, dim pawp yn amlwg, jyst fi efallai) yn ofni bron â chyrraedd unwaith eto – ydy, mae’r Eisteddfod Genedlaethol ar y gorwel… ac eleni mae’n cael ei chynnal tua milltir o lle dw i’n byw – ARGHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHHH!!!!!!!!

Felly, dim ond un peth sydd amdani, a dianc yw hynny. Fi off ar fy ngwyliau dros adeg yr wyl, yn dianc tua’r gogledd tra bydd mass exodus yn digwydd i’r cyfeiriad arall… dylai fod yn reit heddychlon tu hwnt i Langurig yn ystod wythnos gyntaf Awst. Neis.

Er hynny, dw i wedi cyfrannu at ambell beth bach sy’n ymwneud â’r Eisteddfod, gan gynnwys:

- Ysgrifennu stori fer i rifyn nesaf Taliesin (fydd yn llawn celfyddyd yn ymwneud â’r brifddinas);

- Cyfrannau at erthygl gan Siriol Haf Griffiths yn rhifyn nesaf Barn (fydd hefyd yn canolbwyntio ar gelfyddyn y brifddinas…);

- Ysgrifennu darn byr i CD newydd Hanner Pei yn sôn am fy atgofion i o’r band ar ddechrau’r 1990au;

- Cyflwyno rhaglen Sioe Gelf arbennig (S4C, 29 Gorffennaf) yn edrych ar sut mae’r ddinas wedi dylanwadu ar rai o’r bobl creadigol sy’n byw yma – yn eu plith Geraint Jarman, Peter Finch, Lloyd Robson, Cate Le Bon, Tom Raybould, Nia Wyn Jones a Gareth Bonello.

Recordiodd Cate a Gareth fersiwn wych o’r gân werin draddodiadol ‘Jail Caerdydd’ ar gyfer y raglen uchod, ac roedd y sesiwn yn gyfle gwych i fi gymryd lluniau o’r ddau wrth eu gwaith. Mae fy hoff ddelwedd i’w gweld ar wefan Photeebooth, ynghyd â degau o ddelweddau gan ffotograffwyr eraill.

Detholiad o fy hoff stwff ar You Tube ar hyn o bryd:

- Erioed wedi clywed am Andres Vasquez? Na fi, ond...

- Henner Pei yn eu pomp. Ffynciwch O 'Ma / Boom-shaka-bppm-tang.

- Gwibdaith yng nghwmni Jack a Kyle.

Dyna ni am nawr… nawr, nôl at eich gwaith!

Mae hawlfraint holl gynnwys y wefan hon, boed yn ddelwedd ffotograffeg neu'n waith ysgrifenedig, yn perthyn i Llwyd Owen. Mae'n anghyfreithlon atgynhyrchu unrhyw ran ohono heb ganiatad y perchennog.

19 July 2008.

Welcome to award-winning novelist, over-enthusiastic photographer and rub-a-dub-DJ, Llwyd Owen’s website.

Some me related stuff for all y’all out there:

- 29 July 2008, Sioe Gelf on S4C. Tune in (avec subtitles, if you wish) to see me attempt an impression of a TV presenter as I journey around Cardiff on my Mongmobile™ interviewing various creative types and discussing what influence the city has on their work. Guests include Geraint Jarman, Peter Finch, Lloyd Robson, Cate Le Bon, Tom Raybould, Nia Wyn Jones and Gareth Bonello.

- I’ve just completed the first draft of the adaptation/translation of my award-winning novel, Faith Hope Love. It’ll be with my editor in a few weeks and hopefully in the shops before Crimbo. You should all buy it, it might just change your life…

- Singer-songwriters Cate Le Bon and Gareth Bonello recorded a brilliant version of the traditional folk song ‘Cardiff Jail’ for the afore mentioned TV programme. The session afforded me an unmissable opportunity to photograph them and my favourite images from the session can be found at Photeebooth, along with numerous other photos by other talented people. Check it.

Here is a selection of my favourite recent crap off You Tube:

- Anyone heard of Andres Vasquez? Me neither, but...

- Cardiff funksters Hanner Pei in their pomp.. Ffynciwch O 'Ma / Boom-shaka-bppm-tang.

- One heck of a trip with Jack and Kyle.

Now, get back to work!

This website’s content belongs to Llwyd Owen in accordance with the Copyright, Designs and Patents Act 1988. It is illegal to reproduce any part of it, be it a photographic image or written word, without the author’s prior consent.