![]() |
|||||||||
| Gwybodaeth/Info | |||||||||
|
Brodor o Gaerdydd ydw i - mae’r ddinas yn ddylanwad enfawr ar fy ngwaith ysgrifenedig a ffotograffol - ac wedi gadael Ysgol Glantaf, astudiais ym Mhrifysgol Bangor cyn dechrau gweithio yn niwydiant cyfryngau Caerdydd ym 1998. Wedi blwyddyn a hanner o stagnantio, pydru a cholli gobaith dihangais i ben draw’r byd gan deithio drwy Asia, Awstralia, Seland Newydd a’r Aifft cyn dychwelyd adref gyda bwriad ac uchelgais bendant. Y bwriad oedd byw bywyd creadigol boddhaus a’r uchelgais oedd gwneud bywoliaeth o ysgrifennu. Er nad ydw i wedi cyflawni’r briff yn gyfan gwbl, nid wyf yn bell o’r nod... Erbyn hyn, dw i’n gweithio fel cyfieithydd yn rhan amser sy’n gadael digon o amser i fi ganolbwyntio ar gynhyrchu ffuglen wreiddiol, heriol ac ysgytwol i ddarllenwyr Cymru. Bellach, rwyf wedi cyhoeddi tair nofel: Ffawd Cywilydd a Chelwyddau (2006). Nofel yn dilyn hanes a helyntion Luc Swan wrth iddo weithio yn niwydiant cyfryngau Caerdydd, tra bod y Diafol ei hun ar ei drywydd. Ffydd Gobaith Cariad (2006). Nofel yn archwilio dylanwad crefydd ar ganol ddosbarth Caerdydd trwy lygaid Alun Brady a’i deulu. Enillodd hon wobr Llyfr y Flwyddyn 2007. Yr Ergyd Olaf (2007). Nofel ffuglen bwlp gyntaf llenyddiaeth Cymru, sy’n dilyn taith bywyd Al Bach o’i blentyndod mewn puteindy yn Abertawe i fod yn ergydiwr ar ran yr Hell’s Angels fel oedolyn. Mae hon ar restr hir Llyfr y Flwyddyn 2008. Mae fy nofelau ar gael i’w prynu wrth Y Lolfa. I was born and bred in Cardiff - the city is a huge influence on my photographic and written work - and after leaving Glantaf High School I studied at Bangor University before starting work in Cardiff’s television industry in 1998. After a year and a half stagnating, rotting and losing hope I escaped to the other side of the world and visited Asia, Australia, New Zealand and Egypt before returning home with a definite purpose and ambition. The purpose of my life would be to live as creatively as possible while my ambition was to make a living from writing. Although I have not achieved these goals completely, I’m not far from fulfillment... I currently work part time as a translator, which leaves plenty of time for me to produce original, challenging and shocking fiction for the readers of Wales. Both my novels are available to buy from Y Lolfa. You can read the (unedited) English language short stories, LUNCH, THE PIT(S) and WISHFUL THINKING, in their entirity by clicking on the titles. |